Avon (sir)

Avon
Mathsir an-fetropolitan, cyn endid gweinyddol tiriogaethol, siroedd seremonïol Lloegr Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.45°N 2.583°W Edit this on Wikidata
Map
Am leoedd eraill o'r un enw gweler Avon.

Sir yn rhanbarth De-orllewin Lloegr oedd Avon. Fe'i crëwyd fel sir an-fetropolitan dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974 o fwrdeistrefi sirol Bryste a Chaerfaddon gyda rhannau o Swydd Gaerloyw a Gwlad yr Haf, ac fe'i diddymwyd ar 31 Mawrth 1996. Fe'i henwyd ar ôl Afon Avon sy'n llifo trwyddi.

Lleoliad Avon yn Lloegr

Roedd gan y sir arwynebedd o 1,346 km² gyda poblogaeth o 900,416 yng nghyfrifiad 1981. Roedd yn ffinio ar Swydd Gaerloyw i'r gogledd, Wiltshire i'r dwyrain, Gwlad yr Haf i'r de, a Môr Hafren i'r gorllewin.

Rhennid y sir yn chwech ardal an-fetropolitan:

  1. Northavon
  2. Bryste
  3. Kingswood
  4. Woodspring
  5. Wansdyke
  6. Caerfaddon

Diddymwyd y sir ym 1996. Fe'i disodlwyd gan bedwar awdurdod unedol:


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search